COFNODION
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd
25 Mai 2023, rhwng 12.30 a 13.30
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Croesawodd Jane Dodds AS bawb i'r cyfarfod, gan estyn croeso arbennig i Julie Morgan AS (y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol); Lynne Neagle AS (y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant); Jenny Rathbone AS, Heledd Fychan AS a Sioned Williams AS. Mae rhestr lawn o’r rhai a oedd yn bresennol a’r ymddiheuriadau a ddaeth i law ynghlwm.
2. Y 1000 Diwrnod Cyntaf – Amy McNaughton, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyflwynodd Amy ei hun fel pennaeth rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, sy’n un o raglenni Iechyd Cyhoeddus Cymru. Eglurodd Amy fod y rhaglen hon yn cwmpasu’r cyfnod rhwng beichiogrwydd ac ail ben-blwydd y plentyn. Cyflwynodd ei sleidiau PowerPoint (ynghlwm).
Ymatebodd Julie Morgan AS fel a ganlyn:
· Roedd yn cytuno â’r holl bwyntiau a godwyd.
· Mae ymrwymiad cadarn i'r materion hyn, ac mae rhagor o adnoddau yn hollbwysig.
· Mae anghydraddoldeb yn hollbwysig, ac mae angen cyrraedd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Gellir gwneud hyn drwy:
- Dechrau'n Deg – ymwelwyr iechyd arbenigol
- Gwasanaethau iaith a lleferydd ledled Cymru
- Hyb ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru – adnodd sy’n ceisio ymchwilio i rai o’r anghydraddoldebau dan sylw a’u hunioni
- Straen Trawmatig Cymru – Fframwaith sy’n seiliedig ar drawma sy’n cael ei ddatblygu
3. Y 1001 diwrnod cyntaf – Dr Orion Owen, y Gymdeithas ar gyfer Iechyd Meddwl Babanod
Cyflwynodd Orion ei sleidiau PowerPoint (ynghlwm). Un o’r prif faterion sy’n peri pryder yw’r diffyg hyfforddiant priodol ar gyfer pob bydwraig ac ymwelydd iechyd.
Ymatebodd Lynne Neagle AS fel a ganlyn:
· Roedd yn angerddol iawn am iechyd meddwl babanod a'r berthynas rhwng y rhiant a’r baban, ac roedd yn awyddus i symud yr agenda hon yn ei blaen.
· Mae tîm ymlyniad Gwent a’r timau yng Nghaerdydd wedi gwneud llawer o waith yn y meysydd hyn.
· Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru, a bydd y ddau fater yn cael sylw.
· Mae cynllun gweithlu newydd yn cael ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, a bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu neilltuo i hyfforddi Gweinidogion.
· Roedd yn cefnogi’n llwyr y fframwaith sy’n seiliedig ar drawma, a gafodd ei grybwyll yn gynharach gan Julie, a bydd gwaith yn cael ei wneud ar y cyd ar hwn.
Ymatebodd Jenny Rathbone AS fel a ganlyn:
· Mae rôl y fydwraig a'r ymwelydd iechyd yn hollbwysig. Pa waith sy'n cael ei wneud gyda darpar rieni?
Ymatebodd Sioned Williams AS fel a ganlyn:
· Mae diffyg cysondeb llwyr mewn gofal bydwreigiaeth. Ni fyddai person byth yn gweld yr un fydwraig ddwywaith.
· Nid yw eu hanghenion hyfforddi presennol yn cael eu diwallu, ac mae hyn yn peri pryder.
Cadarnhaodd Orion fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda Rhwydwaith Rhieni-Babanod Cymru i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn seiliedig ar y model meddygol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cyd-fynd â gofynion babanod/rhieni.
Yn ogystal, eiliodd Amy bwysigrwydd rôl y fydwraig, a chadarnhaodd fod cynnig ar gyfer gwybodaeth rhianta yn cael ei ddatblygu, ynghyd â chynnig ar gyfer pob plentyn.
Ymatebodd Jane Dodds AS fel a ganlyn:
· A oes gennym ni ddigon o fydwragedd yng Nghymru?
· A yw menywod/rhieni yn gallu siarad eu dewis iaith gyda’u bydwraig/bydwragedd?
· Mae materion gweithlu yn wirioneddol heriol, ac mae timau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol ledled y wlad
· Mae cyfarfod gyda Julie Richards o Goleg Brenhinol y Bydwragedd wedi’i gadarnhau, ac mae croeso i aelodau'r grŵp fod yn bresennol.
4. Gwaith Grŵp Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar (sy’n cael ei gydlynu gan sefydliad Plant yng Nghymru)
Rhoddodd Sarah Witcombe-Hayes amlinelliad cryno o bwyntiau allweddol y cyflwyniad PowerPoint (ynghlwm) a ddatblygwyd gydag Anna Westall, gan nad oedd digon o amser i roi cyflwyniad llawn.
Cadarnhaodd Sarah fod Grŵp Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar yn cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a godwyd heddiw, ac y byddai'n fodlon cydweithio'n agos ag Aelodau o’r Senedd i symud yr agenda yn ei blaen.
Diolchodd Jane i'r holl siaradwyr am eu sylwadau.
5. Camau gweithredu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
· Gwahodd cynrychiolydd o’r Hyb ACE i’r cyfarfod ar 29 Tachwedd 2023, a fydd yn canolbwyntio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
· Sarah Witcombe-Hayes i anfon linc at yr ysgrifenyddiaeth a fydd yn arwain at ganllawiau sydd newydd gael eu cyhoeddi yn yr Alban: Llais y Baban: canllawiau arfer gorau a’r addewid ar gyfer babanod - gov.scot (www.gov.scot)
· Ystyried y syniad o gynnal cyfarfod grŵp trawsbleidiol posibl gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd
· Cytunodd Becky Saunders o Beth Sy'n Gweithio ar gyfer Ymyrraeth Gynnar a Gofal Cymdeithasol Plant i anfon linc yn arwain at becyn cymorth UNICEF: Deall a chefnogi iechyd meddwl mewn babandod a phlentyndod cynnar – pecyn cymorth i gefnogi gweithredu lleol yn y DU. – UNICEF UK
· Ystyried sut y gallai'r Grŵp Trawsbleidiol hwn helpu’r broses o lunio'r strategaeth iechyd meddwl newydd
· Ymgysylltu â bydwragedd – cynhelir cyfarfod brecwast ar 28 Mehefin 2023, rhwng 08.00 a 09.00, yn Nhŷ Hywel. Croeso i bawb
6. Dyddiad y cyfarfod nesaf
27 Medi 2023, rhwng 10.30 a 11.30. Ar-lein yn unig (i'w gadarnhau). Thema: Cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod – Bydwreigiaeth yng Nghymru
29 Tachwedd 2023, rhwng 10.30 a 11.30, cyfarfod
hybrid – ystafell yn Nhŷ Hywel ac ar-lein. Thema:
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol a’r ymddiheuriadau a ddaeth i law
Dyddiad: 25 Mai 2023, rhwng 12.30 a 13.30 |
|
|||
|
Enw |
Sefydliad |
|
|
|
Jane Dodds AS |
Senedd Cymru |
|
|
|
Rhys Taylor |
Senedd Cymru |
|
|
|
Julie Morgan AS |
Senedd Cymru |
|
|
|
Lynne Neagle AS |
Senedd Cymru |
|
|
|
Jenny Rathbone AS |
Senedd Cymru |
|
|
|
Heledd Fychan |
Senedd Cymru |
|
|
|
Sioned Williams |
Senedd Cymru |
|
|
|
Sean O'Neill |
Plant yng Nghymru |
|
|
|
Louise O'Neill |
Plant yng Nghymru |
|
|
|
Dr Orion Owen (ar-lein) |
Y Gymdeithas ar gyfer Iechyd Meddwl Babanod |
|
|
|
Amy McNaughton (ar-lein) |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
|
|
Anna Westall (ar-lein) |
Plant yng Nghymru |
|
|
|
Sarah Witcombe-Hayes (ar-lein) |
NSPCC Cymru |
|
|
|
Becky Saunders |
Beth Sy'n Gweithio ar gyfer Ymyrraeth Gynnar a Gofal Cymdeithasol Plant |
|
|
|
David Goodger |
Blynyddoedd Cynnar Cymru |
|
|
|
Mike Greenaway (ar-lein) |
Chwarae Cymru |
|
|
|
Sue Faulkner |
|
|
|
|
Catrin Glyn (ar-lein) |
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr |
|
|
|
Debra Eckley (ar-lein) |
Mudiad Meithrin |
|
|
|
Niamh Salkeld (ar-lein) |
Ymchwil y Senedd |
|
|
|
Cath Lewis |
Cŵn Tywys Cymru |
|
|
|
Catrin Glyn (ar-lein) |
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru |
|
|
|
Katie Palmer |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
|
|
|
Katherine Lowther |
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru |
|
|
|
Sian Thomas |
Ymchwil y Senedd |
|
|
|
Rhian Smith (ar-lein) |
Y Rhwydwaith Maethu |
|
|
Ymddiheuriadau
Llyr Gruffydd AS
Peredur Owen Griffiths AS
Jessica Laimann, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru)
Julie Wallace, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Hannah Williams, Gofal Cymdeithasol Cymru
Sharon Lovell, NYAS Cymru
Cherrie Bija, Ffydd mewn Teuluoedd
Melissa Wood, Barnardo's Cymru
Mark Carter, Barnardo's Cymru